Athrawes: Ymddygiad annerbyniol
- Cyhoeddwyd

Mae athrawes aeth ati i ddwyn lluniau o faban o wefan Facebook er mwyn twyllo ei chyn-gariad i gredu mai eu plentyn nhw oedd e - wedi ei chael yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Roedd Victoria Jones, 23, sy'n athrawes ysgol gynradd, wedi defnyddio 82 o luniau er mwyn dial ar ei chyn gariad am ddod â'u perthynas i ben.
Mae'r panel disgyblu yng Nghaerdydd yn dal i ystyried pa gosb i'w osod.
Clywodd y gwrandawiad disgyblu fod Miss Jones wedi honni am ddwy flynedd mai Daniel Barberini, 26 oed, oedd tad ei phlentyn.
Dywedodd Miss Jones wrtho ei bod wedi cael efeilliaid ond bod un wedi marw ar ôl genedigaeth.
Clywodd gwrandawiad ar ran Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru fod yr athrawes wedi dechrau ar ei stori ar ôl ail gysylltu â hen ffrind ysgol ar wefan Facebook.
Perthynas
Honnir bod Miss Jones wedi defnyddio lluniau o fabi newydd anedig ei ffrind i dwyllo Mr Barberini am fod eu perthynas 16 mis wedi dod i ben.
Dywedodd wrtho iddi roi genedigaeth i efeilliaid yn Efrog Newydd, ac yna iddi adael Prydain a symud i Awstralia.
Enwau'r efeilliaid, meddai, oedd Keira a Harrison - ond dywedodd fod Harrison, oedd â chyflwr Downs, wedi marw yn fuan ar ôl iddo gael ei eni.
Clywodd y gwrandawiad fod Miss Jones yn dysgu yn ysgol gynradd Ringland yng Nghasnewydd ac nad oedd ganddi blant.
Dywedodd Haydn Llewellyn, swyddog disgyblu'r Pwyllgor: "Mae eich ymddygiad wedi cael effaith ar enw da'r ysgol a'r cyngor sir."
Ymchwiliad
Mae Ms Jones yn wynebu tri chyhuddiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Doedd Miss Jones ddim yn bresennol yn ystod y gwrandawiad.
Mae hi'n cyfaddef cymryd lluniau o wefan Facebook ond yn gwadu'r cyhuddiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i'r achos ar ôl i fam y babi gwyno am yr hyn a ddigwyddodd.
Penderfynodd yr heddlu nad oedd Ms Jones wedi torri'r gyfraith.
Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) sy'n cynrychioli Ms Jones yn y gwrandawiad.
Dywedodd Colin Adkins, cynrychiolydd yr undeb: "Byddai unrhyw un yn derbyn fod y weithred yn anghywir, ac mae Victoria Jones yn derbyn hynny.
"Ond fe gyflawnwyd y weithred yn ei bywyd preifat."