Gwasanaethau labordy yn dod i ben
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol wedi cyhoeddi y bydd eu gwasanaethau labordy yn dod i ben yn Aberystwyth a Chaerfyrddin erbyn Mawrth 2013.
Bydd hyn yn golygu na fydd gan yr asiantaeth labordy yn darparu gwasanaeth i brofi anifeiliaid yng Nghymru.
Bydd y newidiadau yn effeithio ar 20 aelod o undeb Prospect yn Aberystwyth a chwe aelod yng Nghaerfyrddin.
Y ganolfan agosaf fydd yr un yn yr Amwythig.
Pwrpas y labordai milfeddygol yw profi iechyd anifeiliaid rhag ofn bod clefydau fel clwy'r traed a'r genau, y diciâu mewn gwartheg a chlwy'r moch.
Mae'r asiantaeth yn rhan o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).
Mae DEFRA'n honni y byddan nhw'n arbed £2.4m y flwyddyn wrth gau wyth o'u 14 o ganolfannau ym Mhrydain, gan gynnwys y labordai yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Ond mae'r undeb, sy'n poeni y bydd 90 yn colli eu swyddi, wedi dadlau y byddai'r arbedion yn werth bron dim o gofio cost methu â chanfod clefyd fel clwy'r traed a'r genau mewn da bryd.
'33%'
Dywedodd Geraldine O'Connell, Ysgrifennydd Prydeinig Prospect, fod clwy'r traed a'r genau wedi costio £8bn yn 2001.
"Dyw Prydain ddim yn gallu fforddio colli cymaint o staff labordy medrus na chwaith golli'r fath gyfleusterau profi.
"Yn waeth byth, fe fydd cau'r labordai yn golygu y bydd ffermwyr a milfeddygon yn derbyn gwasanaeth tila oherwydd byddai rhaid iddyn nhw aros am ganlyniad profion o ganolfannau fydd yn bell i ffwrdd."
Dywedodd llefarydd ar ran Prospect y bydd y newidiadau yn effeithio ar bum milfeddyg, 11 gwyddonydd a phedair swydd weinyddol yn Aberystwyth a thri gwyddonydd, un milfeddyg a dwy swydd weinyddol yng Nghaerfyrddin.
Cymeradwyo
Nawr bod y cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidog yr Amgylchedd, meddai'r asiantaeth, bydd labordai yn cael eu lleoli yn Bury St Edmunds, Lasswade, Newcastle, Penrith, yr Amwythig, Starcross, Sutton Bonington and Weybridge
Ychwanegodd: "Ni fydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd y canolfannau yn cau.
"Mae gwasanaethau labordy eraill fel Cadw Gwyliadwriaeth Filfeddygol yn cael eu cynnal yn ein labordai a dyw'r cynllun ddim yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r gwaith hwn."
Straeon perthnasol
- 18 Awst 2011
- 8 Awst 2011
- 21 Gorffennaf 2011