Tân mewn fflatiau: Ymchwiliad
- Cyhoeddwyd

Bu criwiau o 11 gorsaf yn ceisio diffodd y fflamau ar y safle yn Commercial Street.
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi i dân ddifrodi fflatiau uwchben siop yng nghanol Casnewydd.
Fe ddechreuodd y tân am 2.27am ddydd Sadwrn.
Bu criwiau o 11 gorsaf yn ceisio diffodd y fflamau ar y safle yn Commercial Street.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu ac nid oedd angen triniaeth ar ddim un o'r bobl sy'n byw yn yr adeilad.
Achoswyd difrod i ddau lawr a tho'r adeilad tri llawr.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod nhw wedi diffodd y tân erbyn 5.25am.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol