Tlws aredig y byd: Torri cwys newydd
- Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf erioed mae pencampwriaeth aredig y byd i hen dractorau yn cael ei chynnal yng Nghymru'r penwythnos hwn.
Mae disgwyl cynrychiolaeth o wledydd fel Seland Newydd, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn y gystadleuaeth sy'n cael ei chynnal yng Nghaeriw yn Sir Benfro.
Mae'r tractorau a ddefnyddir yn y bencampwriaeth yn dyddio o'r 1920au tan y 1950au.
Dywedodd un o drefnwyr y gystadleuaeth, Gordon Harries, 68 oed mai'r nos yw "sicrhau eich bod chi'n troi'r tir mewn llinell syth".
Torf o 70,000
Mr Harries, sy'n ffermwr sydd wedi ymddeol o gyffiniau Dinbych-y-pysgod, yw pencampwr y pum gwlad eleni wedi iddo guro cystadleuwyr o Gymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
"Mae'n rhaid i chi fod yn bwyllog wrth aredig gan sicrhau nad oes unrhyw wair neu chwyn ar ôl wedi ichi aredig y tir."
Cafodd pencampwriaeth Aredig y Byd ei chynnal yn Sweden eleni ond mae Mr Harries yn tyngu bod aredig gan ddefnyddio hen dractorau yn fwy o hwyl.
"Mae defnyddio hen dractorau yn llawer mwy anodd am fod rhaid i bopeth sy'n cael ei wneud yn berthynol i'[r llaw."
Yr unig Gymro i ennill Pencampwriaeth Aredig y Byd yw Leslie Goodwin o'r Gelli Gandryll.
Gwyliodd torf o 70,000 o bobl Mr Goodwin yn cipio'r bencampwriaeth yn yr Almaen ar 4 Hydref 1958 pan oedd e'n 28 oed.