Prifathrawes: Wedi ei hatal o'r blaen
- Cyhoeddwyd

Mae'r BBC yn deall bod prifathrawes sydd wedi ei hatal o'i gwaith wedi bod yn destun ymchwiliad i gyhuddiad o fwlian yn y gorffennol.
Ym mis Mai dywedodd athrawon Ysgol Goronwy Owen, Benllech, nad oedd ganddynt unrhyw hyder yn Ann Hughes.
Cafodd y brifathrawes ei hatal o'i gwaith yn 2000 ond dychwelodd ar ôl i wasanaeth erlyn y goron benderfynu peidio mynd â'r mater i'r llys.
Mae rhaglen Taro Naw nos Lun hefyd yn datgelu fod yr ysgol wedi torri'r gyfraith trwy ddinistrio dogfennau na ddylid bod wedi eu dinistrio.
Yn Awst 2010, fe wnaeth pump o aelodau staff yr ysgol gwyno ynglŷn ag ymddygiad Mrs Hughes i'r llywodraethwyr.
Cafodd y gwyn ei dderbyn a lluniwyd cynllun gweithredol.
Ond doedd hynny ddim wrth fodd yr athrawon, ac fe aethant yn absennol o'u gwaith gan ddweud eu bod dan straen.
Diffygion
Cafodd Mrs Hughes ei hatal o'i gwaith ym mis Gorffennaf eleni.
Mae Taro Naw yn deall fod yr athrawon eisiau i'r llywodraethwyr gyflwyno Proses Medrusrwydd yn erbyn Mrs Hughes.
Byddai hwn yn fesur ffurfiol gan y system addysg sy'n delio â diffygion difrifol.
Mae'r awdurdod addysg wedi dweud wrth rieni fod cwynion yr athrawon yn ymwneud â chyfathrebu, strwythur rheoli a phenderfyniadau ariannol.
Ond bydd y rhaglen yn datgelu fod yr athrawon hefyd wedi cyhuddo Ann Hughes o ymddwyn yn fygythiol.
Yn ôl Taro Naw cafodd Ann Hughes ei chyhuddo o fwlio dros ddeg mlynedd yn ôl.
Yn 2000 bu Mrs Hughes i ffwrdd o'i gwaith am fisoedd wrth i'r heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol ymchwilio i honiadau ei bod yn bwlio disgybl.
Deg oed oedd Jamie, mab dyslecsig Christine Lesser pan ddaeth un o famau'r ysgol ati.
"Roedd hi'n ypset iawn, ac mi ddwedodd wrtha i am rai o'r pethau creulon oedd yn digwydd i Jamie yn yr ysgol," meddai Mrs Lesser, sy'n fam i dri o Benllech.
"O'n i wedi dychryn, a mi nesh i ofyn iddi am enwau pobl oedd wedi bod yn dyst i bethau roedd Mrs Hughes wedi eu gwneud er mwyn neud yn siwr bo fi â'r wybodaeth gywir cyn cysylltu ag unrhyw un i gwyno."
Ar ôl siarad ag eraill, fe gysylltodd â'r Gwasanaethau Cymdeithasol - ac fe wnaethon nhw drosglwyddo'r gwyn i'r heddlu.
Roedd yr heddlu yn barod i ddwyn achos ond fe wrthododd gwasanaeth Erlyn y Goron i fynd a'r mater i'r llys.
Dinistrio
Dychwelodd Ann Hughes i'w gwaith - gydag argymhellion cryf i Gyngor Môn gan yr heddlu a'r Gwasanaethau Cymdeithasol bod Ann Hughes yn derbyn ail hyfforddiant, a bod yr Awdurdod yn gweithredu i ddelio â'r honiadau yn ei herbyn.
Ond mae Taro Naw yn datgelu iddi ddychwelyd i'w gwaith heb i'r argymhellion gael eu gweithredu.
Mae'r rhaglen hefyd yn dweud fod ymchwiliad i ddigwyddiad yn 2005 yn dangos fod yr ysgol wedi dinistrio dogfennau oedd gan riant yr hawl i'w gweld yn ymwneud â'i ferch.
Daeth i'r amlwg hefyd nad oedd gan yr ysgol bolisi ar fwlio, na pholisi cwynion fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Gwrthododd Cyngor Môn, Mrs Hughes, Cadeirydd y Llywodraethwyr ac UCAC, sy'n cynrychioli'r athrawon a'r brifathrawes, roi cyfweliadau tra bo'r ymchwiliad yn parhau.
Taro Naw am 9.30pm, nos Lun, ar S4C.
Straeon perthnasol
- 23 Awst 2011
- 8 Gorffennaf 2011
- 10 Mehefin 2011