Cynllun: Atal yfed ar y stryd
- Cyhoeddwyd

Gallai gwaharddiad sy'n atal pobol rhag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus ddod i rym yn ardal Rhondda Cynon Taf (RCT).
Mae cabinet y cyngor yn cyfarfod i ystyried gosod Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig (GMCD).
Ni fyddai yn erbyn y gyfraith i yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus ond y gallai'r rhai sy'n anwybyddu ceisiadau gan yr heddlu i beidio yfed alcohol ar y stryd gael eu herlyn a gorfod talu dirwy o hyd at £500.
Mae cynghorau Caerdydd a Wrecsam eisoes wedi cyflwyno gorchmynion sy'n gwahardd pobl rhag yfed alcohol yno.
Cyfarfod cyhoeddus
Mae cyngor RCT yn ystyried y gwaharddiad yn dilyn gwaharddiadau llwyddiannus ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd a Penrhiwceibr yn Nyffryn Cynon.
Dywed y cyngor fod y nifer o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag alcohol a adroddwyd i'r heddlu wedi gostwng 39% yn ardal Penrhiwceibr ers i'r gwaharddiad ddod i rym.
Mae'r cynnig i osod y gwaharddiad yn cael ei gefnogi gan Heddlu De Cymru.
Dywedodd arweinydd cyngor RCT, Russell Roberts fod y cyngor am wneud safiad cadarn ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Byddai gosod GMCD ar hyd y sir yn gwneud hi'n bosib taclo yfed dyrys mewn unrhyw fan cyhoeddus boed e'n faes parcio neu ar y stryd," meddai.
Bydd y cynnig yn cael ei ystyried mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhont-Y-Clun am 3.30pm ddydd Llun Medi 27.