Cerddwr 50 oed wedi marw ar Fannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 50 oed wedi marw ar gopa mynydd ym Mannau Brycheiniog.
Roedd yn cerdded gyda chriw o bobl yn eu harddegau o sir Dorset ar fynydd Corn Du pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 1:30pm ddydd Sadwrn.
Fe gafodd dau dîm achub mynydd, yr heddlu a'r ambiwlans awyr eu galw i'r digwyddiad.
Dywedodd Penny Brockman o Dîm Achub Mynydd Canol y Bannau fod yr achubwyr wedi cyrraedd y dyn o fewn munudau ond ei bod hi'n rhy hwyr.
Eglurodd: "Roedd ein tîm yn darparu cefnogaeth i ddigwyddiad deuddydd ar y mynydd, ac roedden nhw yno o fewn munudau gydag offer meddygol da.
"Hoffwn dalu teyrnged i aelodau o'r cyhoedd a gyrhaeddodd y safle yn gynnar a gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r dyn."
"Hoffwn gynnig ein cydymdeimlad i deulu'r dyn," ychwanegodd wrth ddweud fod pawb wedi gadael mewn sioc oherwydd y digwyddiad prin yma.
Corn Du yw'r ail gopa uchaf yn Ne Cymru ar 2,864 troedfedd (873m).