Cymru 81-7 Namibia

  • Cyhoeddwyd
Scott WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Scott Williams yn sgorio cais cyntaf Cymru

Sgoriodd Cymru ddeuddeg cais wrth sicrhau pwynt bonws yn eu buddugoliaeth o 81-4 yn erbyn Namibia yng Nghwpan y Byd, yn Seland Newydd.

Daeth naw o geisiau yn yr ail hanner, gyda ffitrwydd tîm Cymru yn profi'n ormod i'r gwrthwynebwyr.

Bydd Cymru nawr yn wynebu Fiji yn eu gem olaf yn Grwp D, yn Hamilton ddydd Sul.

Ar hyn o bryd mae'n edrych yn debygol y bydd Cymru yn wynebu Iwerddon yn y gem go gynderfynol.

Dechreuodd Cymru yn gryf ac yn addawol yn New Plymourth er bod yna sawl newid i'r tîm.

Roedd Stephen Jones yn chwarae ei gem rhif 101 i Gymru, record newydd.

Cryfder

Daeth tri chais i Gymru yn yr hanner cyntaf, i gyd o fewn yr 18 munud cyntaf.

Ar yr egwyl roedd Cymru ar y blaen 22-0.

Daeth ffitrwydd Cymru i'r amlwg yn yr ail hanner, gyda'r chwaraewyr ifanc yn creu argraff.

Roedd cryfder Geroge North yn amlwg gyda'r asgellwr 19 oed yn croesi ddwywaith ar ôl dod ymlaen i'r cae.

Bydd tîm hyfforddi Cymru hefyd yn hapus gyda pherfformiad y prop Gethin Jenkins oedd yn dychwelyd ar ôl anaf.

Fe lwyddodd ef hefyd i groesi'r llinell.

Sgorwyr ceisiau Cymru oedd Scott Williams (3), Geroge North (2), Aled Brew, Gethin Jenkins, Toby Faletau, Jonathan Davies, Lee Byrne, Lloyd Williams ac Alun-Wyn.

Hon oedd buddugoliaeth fwyaf erioed i Gymru yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd.

Dywedodd hyffroddwr Cymru Warren Gatland fod y tim wedi dechrau'n hynod addawol.

"Ond yna dwi'n meddw i'r chwaraewyr gredu fod y gêm ar ben, aethant i gysgu gan golli awch.

"Fe wnes i roi llond ceg iddynt yn ystod yr egwyl, a daeth y chwaraewyr allan a chwblhau'r gwaith.

"Fe wnaeth y chwaraewyr oddi ar y fainc greu argraff.

"Roedd yna 11 o newidiadau ar gyfer y gêm a dwi'n fodlon iawn. "

Cymru: Lee Byrne; Leigh Halfpenny; Jonathan Davies, Scott Williams; Aled Brew; Stephen Jones, Tavis Knoyle; Gethin Jenkins, Lloyd Burns, Craig Mitchell, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Sam Warburton (capten), Toby Faletau.

Eilyddion: Ken Owens ( Burns, 62), Ryan Bevington (Jenkins, 62), Luke Charteris ( Faletau, 56), Andy Powell ( Warburton 48), Lloyd Williams ( Knoyle 58), Rhys Priestland (S Jones 63), George North (Brew 56).

CYMRU:

Cais: Scott Williams (3), Brew, Faletau, G Jenkins, North (2), J Davies, L Williams, Byrne, A W Jones.

Trosgais: S Jones (6), Priestland (3). Cic gosb: S Jones.

NAMIBIA:

Cais: Kohl

Trosgais: Kolze