Ymosodiad cŵn: Cyhuddo dyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gyhuddo o dan Ddeddf Cŵn Peryglus ar ôl digwyddiad yng Nghasnewydd.
Bydd y dyn 31 oed o Gasnewydd gerbron ynadon y ddinas ar Hydref 13.
Mae'n wynebu cyhuddiad o fethu â rheoli ci peryglus mewn lle cyhoeddus ac o achosi anaf.
Nos Sadwrn fe ymosododd dau gi wrth i ddynes fynd â dau ddaeargi am dro ar Heol Alexandra am 10.15 pm.
Cafodd hi ei brathu ar ei braich wrth geisio stopio'r ymosodiad.
Bu farw un o'i chŵn wedi'r digwyddiad.
Mae dyn 30 oed o Gasnewydd wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau
Cafodd y ddynes driniaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent.