'Hwb' i wasanaethau deintyddol yn Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd

Bydd uned ddeintyddol newydd yn Rhondda Cynon Taf yn rhoi gwasanaeth i bobl na fydd fel arfer yn gallu gweld deintydd, yn ôl swyddogion iechyd.
Bydd y ganolfan hyfforddiant clinigol yn Ysbyty Cymunedol Cwm Cynon yn Aberpennar yn darparu 18 o unedau triniaeth pan fydd yn agor ym mis Ionawr 2012.
Mae 'na amcangyfrif fod tua 10,000 o bobl yn yr ardal heb wasanaethau deintyddol.
Mae deintyddion yn gyndyn o dderbyn mwy o gleifion oherwydd maint y gwaith y byddai hyn yn ei olygu, yn ôl swyddogion.
Dywedodd Peter Ash o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y byddai'r uned newydd yn gaffaeliad i'r ardal.
'Rheolaidd'
"Bydd staff a myfyrwyr yr uned yn asesu'r cleifion ac yn datblygu rhaglen waith i fynd i'r afael â'r problemau, gan obeithio eu trosglwyddo wedyn i ddeintyddion ar gyfer triniaeth a gofal rheolaidd," meddai.
Yn ôl David Thomas, Prif Swyddog Deintyddol Cymru, byddai'r ganolfan yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr deintyddol gael profiad mewn practis.
Mae'r fenter wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweinyddu ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2010
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2009
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2010
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2005
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2005
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2005