Y meddalwedd sy'n 'gwella perfformiad'

  • Cyhoeddwyd
Y teclyn ar waithFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
'Mae'r meddalwedd arloesol yn mynd i helpu hyfforddwyr'

Mae arbenigwyr Prifysgol Abertawe wedi dyfeisio meddalwedd allai effeithio ar berfformiad Tîm Rygbi Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Y broblem ar hyn o bryd, medd rhai, wrth i hyfforddwyr geisio dadansoddi gemau yw gormod o wybodaeth.

Mae MatchPad yn creu llinell amser o brif ddigwyddiadau'r gêm fel bod modd i hyfforddwyr adolygu fideo wrth wasgu eicon arbennig.

Fe fydd hyfforddwyr yn gallu defnyddio'r rhaglen ar yr Apple iPad yn yr eisteddle, ar ymyl y cae neu yn y stafell newid.

Dywedodd y Dr Iwan Griffiths o Aberteifi, arweinydd y prosiect: "Mae'r meddalwedd arloesol yn mynd i helpu hyfforddwyr sy'n dadansoddi yn y fan a'r lle.

'Hwb i berfformiad'

"Y gobaith yw y bydd yn hwb i berfformiad Cymru yn Seland Newydd."

Dywedodd y Dr Philip Legg, ddatblygodd y meddalwedd: "Fe fydd dadansoddwyr yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth yn gyflym ac yn effeithiol."

Rhys Long yw Pennaeth Dadansoddi Perfformiad Undeb Rygbi Cymru. "Y fantais fwya yw y bydd yn cynnig darlun llawn o gyfeiriad y gêm," meddai.

"Hyd yn hyn mae wedi bod yn effeithiol wrth astudio prif ddigwyddiadau a beth yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw."

Cynllun Llywodraeth Cymru, Arbenigedd Academaidd ar gyfer Busnes, sy'n ariannu'r cynllun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol