Hyfforddi: 'Colli 17 o swyddi' yng Ngheredigion

Prentisiaid Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Yn y sir, Hyfforddiant Ceredigion, yw prif ddarparwr prentisiaethau

Fe fydd staff sy'n darparu prentisiaethau a chynlluniau dychwelyd i'r gwaith yn colli eu swyddi.

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod hefyd yn bwriadu cau swyddfa Hyfforddiant Ceredigion yn Llambed.

Er nad yw'r cyngor wedi dweud faint o swyddi fydd yn diflannu, y gred yw bod y toriadau'n effeithio ar 17 o bobl.

Mae undeb Unsain wedi dweud bod y bwriad yn "achosi pryder".

Eisoes mae cyfnod ymgynghori â'r undebau a staff wedi dechrau.

'Nifer arwyddocaol'

Hyfforddiant Ceredigion yw prif ddarparwr prentisiaethau yn y sir.

Dywedodd ysgrifennydd cangen sirol yr undeb, Cathy Graham: "Mae 17 o swyddi'n nifer arwyddocaol yng Ngheredigion.

"Rydyn ni'n poeni'n fawr oherwydd gallai hyn arwain at lai o brentisiaethau a llai o leoedd ar gyrsiau hyfforddi."

Mae swyddfeydd y mudiad yn Aberystwyth ac Aberteifi.

Straeon perthnasol