Ymchwilio i ymosodiad rhywiol difrifol
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth oherwydd ymosodiad rhywiol difrifol ar ferch 16 oed yn Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau mân fore Sul.
Cadarnhaodd yr heddlu fod dyn 23 oed wedi cael ei arestio ac wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Owain Richards: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yng nghyffiniau Mynwent Eglwys y Santes Fair yn Llanfair-ym-Muallt rhwng hanner nos a 2:15am ddydd Sul, Medi 25, i gysylltu â'r heddlu.
"Hoffwn bwysleisio i'r gymuned leol fod troseddau fel hyn yn anghyffredin ac mae'r sir yn parhau yn un o'r lleoedd mwya' diogel i fyw ynddo yng Nghymru a Lloegr."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu Llandrindod ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.