Taro bargen rhwng Clwb Pêl-droed Wrecsam a'r cefnogwyr

  • Cyhoeddwyd

Y cefnogwyr fydd perchnogion newydd Clwb Pêl-Droed Caerdydd ar ôl i'r cais gael ei gwblhau.

Cais Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Wrecsam oedd yr un yr oedd y clwb yn ei ffario.

Ond mae 'na nifer o ffactorau wedi arwain at oedi.

Cafodd cyfarfod ei gynnal ddydd Llun wrth i un o berchnogion y clwb, Geoff Moss, fygwth trafod gydag eraill os na fyddai'n derbyn blaendal erbyn 5pm.

Dywedodd datganiad ar y cyd o'r Cae Ras fod "cytundeb ariannol addas wedi ei gyrraedd.

"Mae cyfarwyddwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam yn falch o gyhoeddi bod cytundeb gydag Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Wrecsam i brynu'r clwb.

"Yn ystod y cyfnod hwn yr ymddiriedolwyr fydd yn rhedeg y clwb o dan gytundeb trwyddedig wrth aros am gymeradwyaeth yr awdurdodau pêl-droed."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol