Oedi cyn dedfrydu llofruddwyr Ben a Catherine Mullany
- Cyhoeddwyd

Daeth i'r amlwg na fydd y rhai sydd wedi eu cael yn euog o lofruddio cwpl o dde Cymru ar eu mis mêl yn Antigua yn cael eu dedfrydu am rai wythnosau.
Roedd Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed, yn dod o Bontardawe ac fe gafodd y ddau eu saethu ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ar Orffennaf 27 2008.
Cafwyd Kaniel Martin, 23 oed, ac Avie Howell, 20 oed, yn euog o'i llofruddio mewn achos llys a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf.
Gall y ddau wynebu'r gosb eithaf.
Does dim modd eu dedfrydu tan fod adroddiad seiciatryddol wedi ei gwblhau.
Cafodd Mr a Mrs Mullany eu saethu mewn bwthyn ar ynys Antigua bythefnos ar ôl iddyn nhw briodi.
Adroddiadau
Wythnosau yn unig ar ôl y briodas yn Eglwys Cilybebyll ger Pontardawe fe gafodd y ddau eu claddu ym mynwent yr eglwys.
Roedd disgwyl i Martin a Howell - a gafwyd hefyd yn euog o saethu a lladd siopwraig lleol yn Antigua, Woneta Anderson, o dan yr un amgylchiadau - eu dedfrydu ddydd Llun.
Ond clywodd y llys na fyddan nhw'n cael eu dedfrydu tan y bydd yr adroddiadau wedi eu cwblhau.
Gan mai dim ond un seiciatrydd cymwys sydd ar yr ynys gall y broses gymryd wythnosau.
Ar ddiwedd yr achos llys ym mis Gorffennaf dywedodd yr erlynyddion y byddan nhw'n "neilltuo dyfarniad" a fyddan nhw'n galw am y gosb eithaf.
Yn sgil y digwyddiadau dywedodd y Prif Weinidog Baldwin Spencer, bod y llofruddiaethau yn fygythiad "i ffordd o fyw Antigua" gan ychwanegu y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth lymach i erlyn y rhai sy'n defnyddio gwn neu gyllell mewn trosedd sy'n arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.
Ond dydi'r gosb eithaf ddim wedi ei weithredu ar yr ynys ers y 1990au.
Wedi ymyrraeth gan y Cyfrin Gyngor yn Llundain yn 2000 mae'n rhaid i bob cosb eithaf yn Antigua gael eu gweithredu o fewn pum mlynedd o'r euogfarn.
Ond mae'r achosion apêl o hyd yn cymryd mwy o amser na hynny.
Straeon perthnasol
- 28 Gorffennaf 2011
- 22 Gorffennaf 2011
- 21 Gorffennaf 2011
- 21 Gorffennaf 2011
- 7 Gorffennaf 2011
- 6 Mehefin 2011
- 3 Mehefin 2011
- 23 Mai 2011