Carchar: Ffrae am fwy o sianeli

  • Cyhoeddwyd
Carchar Y ParcFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Carchar Y Parc yn talu tua £100 y mis am sianel Sky Sports 1

Mae carcharorion yn bygwth dwyn achos yn erbyn penaethiaid carchar preifat Y Parc, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, am mai dim ond un sianel deledu chwaraeon y maen nhw'n cael gwylio.

Mae rhai ohonynt yn cael gwylio Sky Sports 1 - sianel sydd â ffi danysgrifio - yn eu celloedd yn rhad ac am ddim fel math o wobr am ymddygiad da.

Ond maen nhw wedi cyflwyno cwyn swyddogol yn gofyn am sawl sianel arall hefyd.

Mae'r cais wedi achosi dadl, gydag Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, David Davies, yn barnu'r ffaith bod y carcharorion yn cael gwylio gemau pêl droed o gwbl.

"Rwy'n synnu'n bod ni'n talu i garcharorion gael gwylio teledu Sky," meddai Mr Davies. "Mae'n anhygoel eu bod yn cwyno am hyn - does gen i ddim Sky Sports fy hun hyd yn oed."

"Dyle bod pobl ddim yn mynd i'r carchar i dreulio'u hamser yn gwylio pecynnau lloeren drud. Dylen nhw fod yn dysgu sgiliau i'w hailsefydlu pan fyddan nhw'n dod allan."

'Hawliau dynol'

Dywedodd un o wardeiniaid y carchar, oedd am aros yn ddienw: "Gallan nhw dreulio trwy'r dydd yn gwylio Sky Sports 1. Ond maen nhw'n flin am nad ydyn nhw'n gallu gweld Sky Sports 2 a 3. Maen nhw hyd yn oed yn dweud ei fod yn tramgwyddo eu hawliau dynol.

"Mae rhai hyd yn oed yn sôn am fynd a'r peth i'r llysoedd - a gallai trethdalwyr orfod talu eu costau cyfreithiol.

Mae'r carchar yn talu tua £100 y mis am y sianel o dan gytundeb 'adeilad cymunedol' cwmni Sky, ac er mwyn cael dewis llawn o sianeli byddai'n rhaid talu £78 yn ychwanegol pob mis.

Dywedodd llefarydd ar ran Carchar Y Parc, sy'n cael ei reoli gan gwmni preifat G4S: "Rydym yn cynnig Sky Sports fel braint sy'n gorfod cael ei ennill a dyna'r unig sianel chwaraeon ry'n ni'n gynnig.

"Breintiau yw'r rhain ac mae carcharorion yn gorfod profi eu bod yn cydymffurfio gyda threfn a pholisi'r carchar."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol