Dau o Gymru wedi'u canfod yn ddiogel yn Sardinia
- Cyhoeddwyd

Mae cwpl o Bowys, oedd ymhlith tri o bobl ar goll ar ynys Sardinia yn Yr Eidal, wedi'u canfod yn ddiogel ac iach.
Roedd gwylwyr y glannau'r Eidal yn arwain y gwaith o chwilio am y ddwy ddynes a'r dyn, oedd wedi methu a dychwelyd i'w maes pebyll ar ôl trip canŵio ddydd Llun.
Credir bod y tri yn eu 40au.
Yn wreiddiol, roedd 'na adroddiadau bod y ddau o Gymru'n hannu o ogledd Cymru, ond daeth i'r amlwg yn ddiweddarach eu bod yn dod o Bowys.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys bod y ddau yn hannu o ardal Y Trallwng.
Credir bod y trydydd person yn byw yng ngogledd Lloegr.
Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor fore dydd Mawrth bod y tri bellach wedi cael eu canfod, a'u bod i gyd yn ddiogel ac iach.
Roedd Gwylwyr y Glannau Falmouth wedi helpu awdurdodau'r Eidal i geisio cysylltu â theuluoedd y tri.