Cyn gadeirydd: Gollwng cyhuddiadau

  • Cyhoeddwyd
Peter RidsdaleFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Peter Ridsdale wedi gwadu'r honiadau yn ei erbyn

Mae cyhuddiadau wedi cael eu gollwng yn erbyn cyn Gadeirydd Clwb Pêl-droed Caerdydd.

Yn wreiddiol, Roedd Adran Safonau Masnach Cyngor Caerdydd wedi dwyn achos ar ôl i Peter Ridsdale addo y byddai arian godwyd am docynnau tymor yn cael ei wario ar chwaraewyr newydd.

Yn Llys Ynadon Caerdydd penderfynwyd gollwng y cyhuddiadau o dwyll yn erbyn y dyn 59 oed.

Fe oedd y cadeirydd pan wnaeth y clwb annog cefnogwyr i brynu tocynnau tymor £400 neu fwy.

Ar y pryd cyhoeddwyd y byddai arian a godwyd yn Rhagfyr 2009 yn cael ei wario ar chwaraewyr newydd ym mis Ionawr.

Cwyno

Pan na ddigwyddodd hynny fe wnaeth rhai cefnogwyr gwyno wrth yr Adran Safonau Masnach.

Roedd Mr Ridsdale, oedd wedi bod ddwywaith gerbron Yynadon Caerdydd, wedi dweud y byddai'n pledio'n ddieuog

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor mai'r rheswm am eu penderfyniad oedd y byddai canlyniad llwyddiannus yn annhebygol.

"Roedd embargo yn rhwystro'r clwb rhag cael prynu chwaraewyr ar y pryd ... a hefyd roedd rhai o'r cefnogwyr gwynodd yn amharod i roi datganiadau tystion."