Tân mewn car yn lledu i dŷ ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae teulu o bedwar wedi dweud eu bod yn ffodus i fod yn fyw wedi i dân ddechreuodd mewn Land Rover ledu i'w cartref.
Cafodd Elwyn Evans a'i deulu eu deffro gan larwm mwg ychydig wedi hanner nos nos Lun yn eu cartref ym Modorgan ar Ynys Môn.
Llwyddodd Mr Evans, ei wraig Ilona a'u meibion Ifan, 12, a Dafydd, 14, i ddianc yn holliach.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedden nhw'n ffodus iawn fod y larwm mwg wedi eu deffro mewn pryd."
Mae ymchwiliad cychwynnol wedi cadarnhau fod y tân wedi dechrau o ganlyniad i nam trydanol yn y cerbyd Freelander.
Bu'n rhaid galw pedwar o griwiau o ddiffoddwyr i geisio rheoli'r tân am bron tair awr.
Roedd y teulu'n cysgu pan ledodd mwg a fflamau o'r cerbyd i gegin eu cartref.
Dywedodd Mr Evans wrth bapur newydd y Daily Post: "Wrth i mi gerdded i'r gegin, mi deimlais fy llwnc yn llenwi gyda mwg ac roeddwn i'n gwybod fod rhaid i ni ddianc ar unwaith.
"Aeth pawb allan o'r drws ffrynt ac roeddwn i'n methu credu pa mor gyflym yr ymledodd y fflamau a'r mwg.
"Fe wnaeth y larwm mwg achub ein bywydau drwy roi dau funud i ni ddianc - fel arall fe fyddai'r mwg wedi ein dal cyn i ni wybod am y tân.
"Mae pawb mewn sioc o weld faint o ddifrod sydd wedi cael ei wneud ond ar yr un pryd rydym yn gwybod ein bod yn lwcus i fod yn fyw."
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân: "Roedden nhw'n ffodus iawn i ddianc.
"Mantais larymau mwg yw eu bod yn rhoi rhybudd cynnar i chi gan roi amser ychwanegol i ddianc.
"Yng nghanol nos, mae'n achub bywydau."