Llofruddiaeth: 'Cyfeiriad anghywir'
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ifanc diniwed ei ladd gan ddau ddyn oedd wedi mynd i'r cyfeiriad anghywir, clywodd Llys y Goron Caerdydd.
Cyhuddwyd dau lofruddiwr contract honedig, Ben Hope a Jason Richards, o "anallu rhyfeddol" wrth drywanu Aamir Siddiqi, 17 oed, mewn camgymeriad.
Clywodd yr achos fod Aamir wedi cael ei drywanu i farwolaeth ger drws ffrynt ei gartref ger Parc Y Rhath yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2010.
Ceisiodd ei rieni ei amddiffyn, ond honnir iddyn nhw hefyd gael eu trywanu gan y ddau.
Clywodd y llys fod y ddau wedi cael eu talu i ddial ar ddyn arall oedd yn byw mewn stryd gyfagos lai na 100 llath i ffwrdd.
'Chwalu bywydau'
Dywedodd yr erlynydd Patrick Harrington QC: "Ar brynhawn Sul heulog fe gafodd y dyn ifanc yma ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref.
"Doedd e na'i rieni yn disgwyl i'w bywydau gael eu chwalu gan yr ymosodiad y diwrnod hwnnw.
"Roedd y ddau wedi cael eu talu gan Mohammed Ali Ege i gyflawni'r ymosodiad oherwydd dyled oedd heb ei thalu.
"Yn drasig i Aamir a'i deulu, fe aeth y llofruddwyr i'r tŷ anghywir."
Clywodd y llys fod Aamir wedi cael ei drywanu yn ei wddf yn ei gartref ar Ffordd Ninian yn ardal Y Rhath.
Ond roedd gwir darged yr ymosodiad yn dad i bedwar oedd yn byw llai na 100 llath i ffwrdd ar stryd gyfagos Stryd Shirley.
Ychwanegodd Mr Harrington: "Mae'n bosib fod y ddau wedi drysu oherwydd cyffuriau pan aethon nhw i'r cyfeiriad anghywir."
Fe gafodd rhieni Aamir - ei dad Iqbal, 68 oed, a'i fam Parveen, 55 oed - eu hanafu wrth geisio helpu eu mab.
Roedd Aamir Siddiqi yn astudio ar gyfer arholiadau safon uwch mewn ysgol breifat gyda'r bwriad o fynd i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei rieni fel "gŵr ifanc bonheddig".
Mae Mr Hope o'r Rhath, a Mr Richards o'r Waun Ddyfal yn gwadu llofruddiaeth.
Mae'r achos, yn Llys y Goron Caerdydd, yn parhau.
Straeon perthnasol
- 7 Mai 2010
- 10 Awst 2010
- 26 Gorffennaf 2010
- 12 Ebrill 2010