Siopau a bwytai ar gyfer hen farchnad da byw Y Trallwng
- Cyhoeddwyd

Yn ôl datblygwyr, mae disgwyl i ran nesaf cynllun ailddatblygu rhan o ganol un o drefi Powys greu hyd at 125 o swyddi.
Fe allai dwy siop ar gost o £2.5 miliwn greu 75 o swyddi yn Y Trallwng, yn ôl y cwmni datblygwyr J Ross.
Yn y cyfamser, mae bragdy Marston's wedi cael caniatâd i godi bwyty ar gyfer 180 o bobl ar gost o £2 miliwn.
Y gred yw y bydd 'na 50 o swyddi yno.
Mae'r ddau gynllun ar dir hen farchnad da byw y dref a'r safle ger archfarchnad newydd Tesco a agorwyd yn gynharach eleni.
Y cynlluniau hyn yw'r diweddara o ran ailddatblygu safle'r hen farchnad.
Yn ôl y datblygwyr, mae disgwyl i'r gwaith ar y bwyty ddechrau ym mis Hydref cyn iddo agor yn y gwanwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Marston's, Steve Roberts, eu bod "wrth eu bodd" a bod y cais cynllunio wedi ei ganiatáu.
Eglurodd Spencer Cooper, Cyfarwyddwr J Ross Developers, mai'r bwriad fyddai ychwanegu at y siopau a'r bwytai sydd eisoes yn y dref, gan wneud Y Trallwng yn "gyrchfan siopwyr a rhai ar wyliau".
Straeon perthnasol
- 6 Tachwedd 2009
- 25 Tachwedd 2008
- 2 Rhagfyr 2008