Lido Afan 0-0 Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Lido Afan 0-0 Aberystwyth.
Yn yr unig gêm Uwchgynghrair Cymru nos Fawrth cafwyd gêm ddi-sgôr
Roedd Aberystwyth wedi teithio i wynebu Lido Afan.
Dyma oedd y tro cyntaf i'r ddau dîm wynebu ei gilydd yn y gynghrair ers 2005.
Cafodd tri o chwaraewyr yr ymwelwyr gardiau melyn ac un o chwaraewyr Lido Afan.
Dal yn hanner isa'r tabl y mae'r ddau dîm.
Fe fydd Lido Afan yn teithio i'r Drenewydd ar gyfer eu gêm ddydd Sadwrn tra bod Aberystwyth yn dal i deithio a hynny i wynebu'r Seintiau Newydd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol