Noson siomedig i Wrecsam a Chasnewydd

  • Cyhoeddwyd

WRECSAM 1-3 MANSFIELD

Logo Clwb Pêl-droed WrecsamFfynhonnell y llun, Other

Am y tro cyntaf ers i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam ddod i gytundeb i brynu'r clwb roedd y clwb yn chwarae gartref yn Uwchgynghrair Blue Square.

Fe wnaeth y Dreigiau ddisgyn o frig yr adran ar ôl colli o dair gôl i un yn erbyn Mansfield.

Y rheolwr dros dro, Andy Morell, sydd wrth y llyw wedi i Dean Saunders adael y clwb yr wythnos diwethaf.

Wedi gôl i'w rwyd ei hun gan Danny Wright yr ymwelwyr oedd ar y blaen.

Daeth Wrecsam yn gyfartal wrth i Lee Fowler rwydo o bellter.

Ond fe aeth Mansfield ymhellach ar y blaen gyda Matthew Green yn llwyddo o gic o'r smotyn.

Cafodd Nathaniel Knight-Percival, oedd wedi troseddu yn erbyn Ross Dyer ar gyfer y gic o'r smotyn, ei anfon oddi ar y cae ar ôl derbyn dau gerdyn melyn.

Yna, gyda'r tîm cartref lawr i 10 dyn cafodd Tom Naylor ei anfon oddi ar y cae ar ran yr ymwelwyr ar ôl ei ail gerdyn melyn.

Gyda'r ddau dîm yn gyfartal o ran dynion y daeth trydedd gôl Mansfield gan Paul Connor yn yr amser ychwanegol.

Ffynhonnell y llun, Other

FORREST GREEN 1-1 CASNEWYDD

Mae Casnewydd yn parhau yn y pedwar gwaelod ar ôl gêm gyfartal un yr un.

Cyn ymosodwr Casnewydd, Charlie Griffin, wnaeth achub y tîm cartref a chadw'r ymwelwyr ymhlith y timau all ostwng o'r uwchgynghrair ar ddiwedd y tymor.

Nathaniel Jarvis roddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 38 munud.

Mae ymosodwr Caerdydd ar fenthyg gyda Chasnewydd.

Ond daeth gôl Griffin wedi 66 munud, ar ôl i'w ymgais yn yr hanner cyntaf gael ei wrthod am ei fod yn camsefyll.

Dydi'r Alltudion ddim wedi ennill mewn 10 gêm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol