Criwiau wedi diffodd tân mewn tai
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau wedi diffodd tân oedd wedi lledu o dŷ teras i do tŷ cyfagos ar Ynys Môn.
Cafodd pedwar criw o Benllech, Llangefni, Porthaethwy a Rhosneigr ac uned arbennig o'r Rhyl eu galw i Gapel Coch ger Llangefni am 5.50am ddydd Mercher.
Chafodd neb ei anafu.
Dywedodd diffoddwyr fod nam trydanol wedi achosi'r tân.
.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol