Pysgotwr: Anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd

Cafodd hofrennydd yr Awyrlu o Chivenor, Dyfnaint, ei alw
Mae dyn 70 oed yn yr ysbyty oherwydd anafiadau difrifol i'w ben ar ôl syrthio oddi ar glogwyni yn Llangrannog, Ceredigion.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi cael galwad oddi wrth aelod o'r cyhoedd am 6pm nos Fawrth.
Roedd y pysgotwr wedi syrthio pum metr o ben y clogwyni.
Galwyd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau yng Ngwbert a Bad Achub Cei Newydd.
Wedyn cyrhaeddodd hofrennydd yr Awyrlu o Chivenor, Dyfnaint.
Fe gafodd y dyn ei godi i un o'r badau achub, ei godi i'r hofrennydd ac aed ag e i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Dywedodd Mike Rogers, Rheolwr Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau: "Roedd hi'n sefyllfa heriol am fod y llanw'n dod i mewn."