Ymosodiad: Arestio tri dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol yn Ninbych y Pysgod wedi arestio tri dyn.
Fe ymosododd criw o ddynion ifanc ar Ben Hunter, 26 oed, yn Heol Sant Siôr yn y dref am 1.15am fore Sadwrn, Medi 10.
Roedd yng nghwmni ei frawd, Tim.
Mae Mr Hunter mewn cyflwr difrifol iawn yn Uned Gofal Dwys Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd a'i deulu wrth erchwyn ei wely.