Cynghorau Cymru i anwybyddu canllawiau'r Gweinidog?
- Cyhoeddwyd

Mae'n ymddangos fod cynghorau Cymru ar fin anwybyddu canllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â dyfodol gwasanaethau cyhoeddus.
Eisoes mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod am i gynghorau gydweithio mewn chwe rhanbarth penodol - rhanbarthau sy'n debyg i'r byrddau iechyd presennol.
Ond mewn cyfarfod ddydd Gwener mae disgwyl i 22 o gynghorau lleol Cymru ddweud eu bod am gadw at y trefniadau presennol ar gyfer cydweithredu.
Byddai hynny yn golygu anwybyddu canllawiau Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant.
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod angen rhoi diwedd ar beth maen nhw'n ei alw yn orchmynion i gynghorau.
Maen nhw hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i nifer o addewidion.
Pryder
Byddai'r rhain yn cynnwys: dim newidiadau polisi am dair blynedd a mwy o hyblygrwydd cyllid.
Mae yna alw hefyd am ddiffyniad mwy manwl o bryd y dylai'r llywodraeth ymyrryd mewn materion yn ymwneud â chynghorau.
Yn ddiweddar mae arweinwyr cynghorau wedi mynegi pryder ynglŷn â'r hyn maen nhw'n credu yw mwy o barodrwydd i benodi comisiynwyr.
Mae comisiynwyr wedi eu penodi i redeg adrannau gwahanol gynghorau yn ddiweddar, ac yn achos Sir Ynys Môn i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r awdurdod yn gyfan gwbl.
Dywedodd Rodney Berman, llefarydd cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod 'na bryder am agwedd ymosodol gweinidogion y llywodraeth ar adegau.
Yn ôl Mr Berman, sydd hefyd yn arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rwy'n credu fod hyn yn rhannol oherwydd personoliaethau rhai o'r gweinidogion, fel Carl Sargeant a'r gweinidog Addysg Leighton Andrews.
"Ar adegau mae yna dueddiad i geisio gosod gorchmynion ar lywodraeth leol."
Ychwanegodd fod cynghorau yn fodlon cydweithio ond fod angen perthynas sy'n cynnwys mwy o drafodaeth.
Gwasanaethau cyhoeddus
Fe wnaeth awgrymu y byddai awdurdodau lleol yn fodlon cydweithio - fel sy wedi digwydd yn y gorffennol ym meysydd addysg, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol.
Ond dywedodd na fyddai cynghorau yn ffafrio model newydd y gweinidog.
Ym mis Gorffennaf fe roddodd Cabinet llywodraeth Cymru sêl bendith i sefydlu chwe rhanbarth daearyddol newydd, er mwyn hybu cydweithio rhwng cynghorau.
Dydd Mawrth yn y Cynulliad dywedodd Mr Sargeant: "Rwyf wedi gosod cynllun ar gyfer darparu gwasanaethau.
"Rwy'n disgwyl i'r cynllun fod yn gynsail i'r dyfodol ar gyfer sicrhau cydweithio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- 15 Medi 2011
- 16 Awst 2011
- 12 Awst 2011