Parc cenedlaethol: Gwerthu asedau?

  • Cyhoeddwyd
Eryri o gopa'r WyddfaFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r parc eisoes wedi dechrau arbed arian yn ystod y blynyddoedd diwethaf

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ystyried gwerthu rhai asedau oherwydd yr angen i arbed bron £500,000.

Mae prif weithredwr, Aneurin Phillips, wedi dweud y bydd rhaid i'r parc arbed £428,000 yn ystod y tair blynedd nesaf oherwydd cwtogi'r grant £4m oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Mr Phillips, mae'r parc yn ystyried gwerthu coetir, meysydd parcio, llynnoedd a mannau picnic.

Ond dywedodd na fyddai'r arbedion yn golygu torri swyddi.

Dim gwerthu

Mae'r parc yn cyflogi 160 o bobl ar hyn o bryd, 109 ohonyn nhw'n llawn amser.

Hefyd ni fydd y parc yn ystyried gwerthu eu pencadlys ym Mhenrhyndeudraeth, canolfan astudio Plas Tan y bwlch na chaffi uchaf Cymru, Hafod Eryri, gostiodd £8.5m i'w adeiladu ar gopa'r Wyddfa.

Yn 2009-10 arbedwyd £251,000 wrth i wyth aelod o staff golli eu gwaith yn wirfoddol.

Bu rhaid i'r parc arbed £158,000 yn 2010-11 ac fe fydd rhaid arbed £148,000 eleni a £176,000 yn ystod 2012-13.

Mae rheolwyr y parc wedi dechrau cynnal trafodaethau gydag undebau wrth geisio gwneud mwy o arbedion, gan gynnwys torri costau teithio.

Canolfan ymwelwyr

Eisoes mae'r parc wedi cau Canolfan Ymwelwyr Blaenau Ffestiniog ac wedi penderfynu cau canolfan arall yn Harlech er bydd y ganolfan honno yn cael ei hailagor mewn partneriaeth â CADW.

Mae rhai o asedau'r parc yn cynnwys dau faes parcio ym Mwlch Sychnant, melin lechi Ynys y Pandy, mwynglawdd plwm yn Nhrefriw, tir ar gopa'r Wyddfa, Coedwig Graienyn yn Llangywair, Llyn Tegid, meysydd parcio Nant Peris yn Llanberis a Morfa Dyffryn, a choetir yn Nolgellau, Llanbedr, Maentwrog, Trawsfynydd a Trefor.

Dywedodd adroddiad annibynnol cwmni ymgynghorol, Red Pike, y gallai'r parc cenedlaethol arbed £25,000 y flwyddyn o'u cyllideb refeniw.

A gallai £23,000 y flwyddyn gael ei godi os bydd aelodau'r parc ddydd Mercher gymeradwyo cynllun i ariannu prosiect hydro-electrig ym Mhlas Tan y bwlch.