Dod o hyd i gorff mab mewn coedwig
- Cyhoeddwyd

Daethpwyd o hyd i gorff bachgen 16 oed wythnosau ar ôl i'w dad saethu ei fam mewn siop trin gwallt yng Nghasnewydd.
Cafwyd hyd i gorff Jack Williams yn yr un goedwig, yn ardal Brynglas, lle lladdodd ei dad, Darren, ei hun ar ôl dianc o'r saethu yn ardal Malpas, Casnewydd bum wythnos yn ôl.
Honnir bod ei fam, Rachel, 39 oed, mewn "sioc fawr" ar ôl marwolaeth y mab.
Mae hi newydd gael ei rhyddhau o'r ysbyty lle cafodd driniaeth.
Yn ôl teulu a chyfeillion, doedd y mab, a oedd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Casnewydd, ddim yn gallu dygymod gyda marwolaeth ei dad.
Mae Heddlu Gwent wedi cadanrhau eu bod yn ymchwilio i achos marwolaeth Jack gan ychwanegu nad oes 'na amgylchiadau amheus.
Mae disgwyl i gwest gael ei agor ar ôl i archwiliad post mortem gael ei gynnal.
Mae Ysgol Uwchradd Casnewydd wedi rhyddhau datganiad yn dweud bod eu meddyliau gyda theulu Jack.
"Rydym i gyd wedi ein heffeithio gan y digwyddiad trasig," meddai'r datganiad.
"Mae staff yn cydweithio gyda thîm seicoleg addysgol a'r Samariaid i gynnig cymorth i'r disgyblion sy'n galaru am eu ffrind."
Aeth y tad 46 oed i mewn i siop trin gwallt Carol Ann ar Heol Malpas ar Awst 19.
Roedd y fam yn gweithio yno ac wedi mynnu cael ysgariad.
Llawdriniaeth
Cafodd ei saethu yn ei choes a bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth 10 awr a threulio mis yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Roedd Jack yn byw gyda chwaer ei dad, Rachael Williams, tra bod ei fam yn yr ysbyty.
Cafodd y fam ei rhyddhau o'r ysbyty dros y penwythnos a nos Lun fe gafodd yr heddlu wybod bod y mab ar goll.
Dywedodd llefarydd ar ran y teulu fod Jack yn cael anhawster dygymod gyda'r hyn oedd wedi digwydd.
"O fewn cwpl o oriau roedd ei fam wedi ei saethu ac roedd ei dad wedi marw.
"Roedd yn fachgen sensitif iawn ...
"Mae Rachel yn mynd drwy uffern unwaith eto ac mae hi'n ymwybodol fod Jack wedi teimlo'n isel iawn."
Jack oedd unig blentyn y cwpl er bod gan Mrs Williams fab arall, Josh, 20 oed, o berthynas flaenorol.
Wythnosau cyn y saethu bum wythnos yn ôl fe wnaeth Mr a Mrs Williams wahanu ac roedden nhw wedi rhoi eu cartref ar werth.
Cafodd Mr Williams ei garcharu am bedwar mis yn 2004 ar ôl i'r heddlu ganfod arfau yn ei gartref ac roedd o wedi ei wahardd rhag cadw gynnau.
Mae llwch y tad wedi ei wasgaru yn y goedwig ym Mrynglas.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2011
- 23 Awst 2011
- 22 Awst 2011