Diwedd nawdd bragdy i Glwb Pêl-droed Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae bragdy wedi dod â'r nawdd i Glwb Pêl-droed Wrecsam i ben.
Daeth cyhoeddiad Greene King ddyddiau yn unig ar ôl i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam gymryd perchnogaeth o'r clwb gan Geoff Moss ac Ian Roberts.
Cafodd y cytundeb ei gytuno mewn egwyddor am ddwy flynedd ym mis Ebrill.
Ond dywedodd Prif Weithredwr y clwb, Jon Harris, na all y clwb barhau i anrhydeddu'r cytundeb am fod perchnogaeth y Cae Ras bellach wedi ei drosglwyddo i Brifysgol Glyndŵr sydd efo cytundeb cwrw ei hun gyda chwmni arall.
Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd llefarydd ar ran Greene King eu bod wedi cytuno ar y cytundeb nawdd mewn "ewyllys da".
Gwerthu cwrw
"Roedd y cytundeb yn cynnwys darparu cwrw ar gyfer y clwb a nawdd crysau ac eisteddle.
"Rydym wedi cyfarfod y clwb i drafod sut y byddai gwerthu'r maes yn cael effaith ar ein nawdd.
"Mae'n debyg bod y perchnogion newydd yn wynebu sefyllfa lle nad oes modd iddyn nhw anrhydeddu ein cytundeb gwreiddiol i werthu ein cwrw gan na chafodd y caniatâd ei drosglwyddo i'r perchnogion newydd.
"O ganlyniad, rydym wedi dod i gytundeb i ddirwyn ein nawdd i ben yn syth fel bod y perchnogion newydd yn rhydd i chwilio am noddwyr newydd.
"Rydym yn dymuno yn dda i Glwb Pêl-droed Wrecsam a'r cefnogwyr triw ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb eu bod yn gresynu bod y nawdd gwych gan Greene King wedi dod i ben.
"Maen nhw wedi bod yn noddwyr gwych.
"Mae'n rhoi cyfle i'r perchnogion newydd gael y cyfle i ganfod noddwyr crysau newydd."
Yn y cyfamser, mae disgwyl i Mr Harris adael ei swydd fel rheolwr gyfarwyddwr dros dro'r clwb ddiwedd yr wythnos.
Gadael Wrecsam
Fe wnaeth gyn-reolwr cyffredinol clwb Yr Amwythig gyrraedd i'r Cae ras ym mis Ionawr a dod yn brif weithredwr ym mis Mai ar ôl methu yn ei ymgais i brynu'r clwb.
"Mae'r ymddiriedolwyr wedi gwneud hi'n glir bod ganddyn nhw eu pobl eu hunain i redeg y clwb.
"Mae hi wedi bod yn wyth mis anodd i bawb.
"Dyma glwb gwych arbennig gyda photensial gwych a'r cefnogwyr gorau.
"Dwi'n dymuno'r gorau i'r ymddiriedolwyr ..."
Daeth cyhoeddiad hefyd y bydd rheolwr cynorthwyol Wrecsam, Brian Carey a'r hyfforddwr ffitrwydd, Mal Purchase, yn gadael y clwb ac ymuno gyda'r cyn-reolwr Dean Saunders yn Doncaster.
Daw hyn a diwedd o 20 mlynedd o gysylltiad rhwng Carey â'r clwb.
Straeon perthnasol
- 26 Medi 2011