Ymchwiliad i farwolaeth dyn

  • Cyhoeddwyd
Canolfan reoliFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Fe anfonodd y gwasanaethau brys ddau griw tân am 9.38am

Mae dyn yn ei dridegau wedi marw wedi damwain mewn gweithdy yn Sir Gâr fore Mercher.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi lansio ymchwiliad wedi'r ddamwain yng nghanol Pumsaint ger Llanwrda.

Deellir fod y dyn wrth beiriant chwythu teiar cyn i'r teiar ffrwydro yng ngweithdy Thomas Rees a'i Fab.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân fod dau griw o Lambed a Llanymddyfri wedi eu hanfon i'r safle am 9.38am.

Aed â'r dyn mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty.

Dyw'r heddlu ddim wedi cyhoeddi ei enw eto ond dywedodd cymydog fod ei bartner newydd gael babi.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud eu bod yn cyd-weithio â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Fe gafodd teulu'r dyn fu farw a Chrwner Sir Gâr eu hysbysu.