Cyhoeddi fframwaith sipsiwn a theithwyr
- Cyhoeddwyd

Bydd Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, yn cyhoeddi fframwaith i gefnogi cymunedau sipsiwn a theithwyr yng Nghymru ddydd Iau.
Fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Ionawr y llynedd yn gofyn am farn a sylwadau pobl, ac mae'r canlyniadau bellach wedi cael eu hystyried yn llawn.
Bydd y fframwaith newydd - 'Teithio i Ddyfodol Gwell - Fframwaith am Weithredu' - yn trafod materion fel iechyd, addysg a chynllunio yn ymwneud â'r cymunedau dan sylw.
Dyma fydd y fframwaith cyntaf ar gyfer sipsiwn a theithwyr i gael ei ddatblygu yn y DU.
Cefndir
Yn 2006, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil am anghenion cartrefed sipsiwn a theithwyr yng Nghymru, ac un o argymhellion yr adroddiad ddaeth yn sgil hynny oedd i Gymru gael strategaeth benodol.
Mae cynllun gweithredu i gyd-fynd â'r fframwaith hefyd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, ac fe fydd hwnnw'n amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn eu cymryd i wireddu amcanion y fframwaith.
Bydd y gweinidog - Ms Hutt - yn dadorchuddio'r fframwaith newydd mewn digwyddiad arbennig ym Mhafiliwn Llandrindod ar ddydd Iau, Medi 29.
Straeon perthnasol
- 18 Rhagfyr 2007
- 30 Mehefin 2011
- 15 Tachwedd 2010