Cynllun yn cwtogi tor-cyfraith yn siroedd Conwy a Dinbych
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad yn dangos bod cynllun yr heddlu i leihau aildroseddu drwy gynnig cymorth i droseddwyr yn gweithio.
o ran pobl sydd wedi ymuno gyda'r cynllun, mae nifer yr arestiadau wedi lleihau o 68% ers mis Ebrill.
Mae adroddiad i Awdurdod Heddlu'r Gogledd yn dweud fod y cynllun wedi arbed £71,000 er y gred yw bod y ffigwr go iawn yn uwch na hynny.
Nod y cynllun blwyddyn yng Nghonwy a Sir Ddinbych yw cynorthwyo tua 50 o droseddwyr cyn mis Medi nesaf.
Fel rhan o'r cynllun - Maes-Newidiwch Eich Bywyd - mae tîm sy'n cynnwys heddlu a swyddogion prawf ac arbenigwyr eraill yn gweithio gyda phobl sy'n troseddu'n aml ac yn achosi difrod a phoendod i'r gymuned.
Mae'n cynnig cymorth mewn wyth maes:
- alcohol;
- cyffuriau;
- cartrefedd;
- plant a theuluoedd;
- cyllid;
- budd-daliadau a dyled;
- iechyd corfforol a meddylion;
- agweddau ac ymddygiad
Mae cymorth ar gael hefyd drwy gynnig hyfforddiant, addysg a gwaith.
'Llai o ddioddefwyr'
Dywedodd arweinydd y tîm, Sarjant Jonathon Hill: "Mae'r uned yn sicrhau bod troseddwyr sydd angen help gyda chyffuriau neu alcohol yn siarad gyda'r asiantaethau perthnasol ac yn cydymffurfio gyda'r profion alcohol a chyffuriau, gan leihau unrhyw ddibyniaeth."
Yn ei adroddiad mae wedi dweud bod plismyn yn gweithion'n agos gyda'r awdurdodau lleol ac adrannau digartrefedd i sicrhau bod gan y bobl ar y cynllun rhywle i fyw, ac hefyd eu bod yn debryn y budd-daliadau sy'n ddyledus iddyn nhw fel nad oes rhaid iddyn nhw droseddu.
Mae'r ffigyrau hyd at ddechrau mis Medi yn dangos bod disgwyl 40 trosedd yn y cyfnod dan sylw.
Ond dywedodd Mr Hill mai naw trosedd oedd wedi arwain at ddyfarniad hyd yma, gan olygu 31 yn llai o droseddau, "ac yn bwysicach 31 yn llai o ddioddefwyr troseddau."