Rheolwr Casnewydd Anthony Hudson wedi gadael

  • Cyhoeddwyd
Logo Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other

Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd a'u rheolwr Anthony Hudson wedi penderfynu gwahanu.

Cafodd Hudson ei benodi fel olynydd i Dean Holdsworth pan adawodd yntau i fod yn hyfforddwr Aldershot y tymor diwethaf.

Er i Gasnewydd fwynhau tymor cyntaf llwyddiannus yn Uwchgynghrair y Blue Square, mae'r clwb wedi cael dechrau gwael i'r tymor presennol.

Nid yw Casnewydd wedi ennill yr un o'u deg gem ddiwethaf.

'Diolch'

Mewn datganiad nos Fercher fe ddywedodd y clwb:

"O ganlyniad i drafodaethau rhwng ein cadeirydd Mr Chris Blight a'n rheolwr Mr Anthony Hudson, hoffai'r clwb gyhoeddi na fydd Mr Hudson yn parhau yn ei rôl fel rheolwr Casnewydd.

"Bydd y rheolwr cynorthwyol, Lee Harrison, a'n hyfforddwr Wayne Hartswell, wedi derbyn y cyfrifoldeb o reoli'r garfan wrth i'r ymdrechion i ddewis rheolwr newydd ddechrau.

"Mae'r clwb yn bwriadu penodi olynydd cyn gynted ag y bod modd, a hoffwn ddiolch i Mr Anthony Hudson am ei gyfnod a'i ymdrechion gyda chlwb Casnewydd a dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol."