Caerdydd 2-1 Southampton
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi codi i chwech uchaf y Bencampwriaeth wedi buddugoliaeth dros y tîm ar y brig, Southampton.
Wedi hanner cyntaf welodd ychydig iawn o gyfleoedd go iawn i'r ddau dîm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, daeth tîm Malky Mackay allan am yr ail hanner gyda mwy o bwrpas i'w chwarae.
Mae Southampton - o dan reolaeth cyn-reolwr Bangor, Nigel Adkins - wedi cael dechrau ardderchog i'w tymor cyntaf yn y bencampwriaeth ers ennill dyrchafiad y tymor diwethaf.
Ond Caerdydd aeth ar y blaen diolch i beniad grymus Kenny Miller o bymtheg llath wedi 56 munud.
Saith munud yn ddiweddarach, daeth ail gôl i Miller ac i Gaerdydd. Y tro hwn, Aron Gunarsson ddaeth o hyd i Miller yn y cwrt chwech, gyda'r Albanwr yn rhwydo i'r gornel.
Nerfus
Rhwng y ddwy gôl fe ddylai Guly Do Prado fod wedi unioni'r sgôr gyda pheniad o chwe llath aeth dros y trawst, ac fe gafodd yr ymwelwyr gyfnod da wedi'r ail gôl hefyd.
Daeth cyfleoedd i Do Prado, Richard Chaplow ac Adam Lallana, ond fe wnaeth David Marshall sawl arbediad ac fe ddaliodd amddiffyn yr Adar Gleision yn gadarn tan yr amser ychwanegwyd am anafiadau.
Steve De Ridder sgoriodd gôl bryd hynny i Southampton i sicrhau diweddglo nerfus.
Ond dyna oedd diwedd y sgorio, gan weld Caerdydd yn esgyn i'r chweched safle yn y tabl.