Tîm yn chwilio am gartref
- Cyhoeddwyd

Mae tîm sy'n cystadlu mewn camp leafrifol yn ofni y bydd rhaid iddynt symud i ardal arall os na fyddan nhw'n gallu canfod man ymarfer newydd.
Cafodd y Bridgend Bombshells, tim esgid-rolio, Roller Derby, eu ffurfio yn 2009.
Ond oherwydd gwelliannau i Ganolfan hamdden Pen-y-bont ar Ogwr does gan y tim ddim lle i ymarfer.
Bydd y cyngor sir yn datgelu eu cynlluniau ar gyfer cyfleusterau newydd i'r ganolfan yn y flwyddyn newydd.
Camp boblogaidd
Ond mae un o aelodau tîm y Bridgend Bombshells, Melissa Allen-Bevan, yn ofni y bydd diddordeb yn y gamp yn lleihau cyn hynny.
"Rydyn ni wedi gofyn i nifer o safleoedd i adael inni ddefnyddio eu cyfleusterau ond dydyn ni ddim wedi llwyddo canfod rhywle addas hyd yn hyn," meddai.
"Mae Ysgol Uwchradd Aberogwr wedi caniatáu inni ddefnyddio eu cyfleusterau tan Hydref 30 ond does ddim man i ymarfer ar ôl hynny."
Dywedodd Ms Allen-Bevan fod Roller Derby yn gamp boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1950au a'i bod wedi'i hadfer yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn y ffilm Whip It, gafodd ei chyfarwyddo gan Drew Barrymore.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr: "Mae cynlluniau ar draed inni wneud gwelliannau sylweddol i gyfleusterau'r ganolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
"Mae'r Bridgend Bombshells wedi eu hadleoli i Ysgol Uwchradd Aberogwr ac fe fyddan nhw'n gallu defnyddio cyfleusterau'r ysgol yn y cyfamser."