Mynachod o Tibet i gysegru stwpa yng Nghricieth

  • Cyhoeddwyd
Mynachod Tibetaidd yn gweddioFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y stwpa yn cael ei lenwi ag eitemau cysegredig

Bydd pedwar mynach Tibetaidd yn teithio o Nepal i Gymru ym mis Hydref i gysegru cofadail Fwdhaidd ger Cricieth.

Saif y gofadail, neu stwpa, sydd tua 2.6 metr o uchder gyda gorchudd o garreg leol, ar lawnt blaen Lloches y Galon Effro, sy'n gartref i Lama Shenpen Hookham a chanolfan encil.

Bydd y stwpa yn cael ei lenwi ag eitemau cysegredig a chreiriau athrawon Bwdhaidd mewn seremonïau arbennig a berfformir gan y mynachod dros gyfod o 10 niwrnod.

Lama Shenpen, dynes Brydeinig a dreuliodd blynyddoedd yn India yn y 1970au gan dderbyn dysgeidiaethau gan lamas Bwdhaidd o Dibet, sy'n arwain y prosiect a gefnogir gan fyfyrwyr a chyfeillion Sangha'r Galon Effro.

'Cromlechi Cymru'

Dywedodd Lama Shenpen: "Daeth yr ysbrydoliaeth i adeiladu stwpa yn niwedd yr 1980au, pan ddywedodd Ei Sancteiddrwydd Dilgo Khyentse Rinpoche wrth fy ngŵr Lama Rigdzin Shikpo a fi y dylwn i adeiladu un yng ngogledd orllewin Cymru.

"Symudais i Eifionydd yn 1997 gan ddod i fyw yn y Lloches yn 2003.

"Dwi wrth fy modd rŵan ein bod yn cyflawni ei ddymuniad."

Yn ôl Lama Shenpen mae stwpa yn gofadail sy'n debyg i gromlechi Cymru.

"Mae'n gweithio fel canolbwynt ar gyfer ynni ysbrydol, a mwya yn y byd o bobl sy'n cyfrannu ato, mwya y bydd yn gallu gwneud lles yn y byd," meddai.

"Dwi'n gobeithio y bydd yn fendith fawr i Gymru a'r byd yn gyffredinol, a dwi'n gwahodd i bawb gymryd rhan, boed yn Fwdhaidd neu yn Gristion neu heb ffydd benodol."

Ar ddiwedd y defodau ar ddiwrnod lleuad llawn ddydd Mercher Hydref 12, gwahoddir i'r cyhoedd ddod i ddigwyddiad arbennig o 10am tan 4pm i ddathlu'r stwpa newydd cysegredig.

Mae'n angenrheidiol archebu lle trwy gysylltu â'r Lloches.