Cyrff anifeiliaid: Dirwy
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gastellnewydd Emlyn, oedd yn gyfrifol am gasglu cyrff anifeiliaid, wedi cael ei ddirwyo £6,000 gan ynadon Aberystwyth.
Plediodd Robert Gordon Thomas o Gwm Du, Cwm Cou, yn euog i gyhuddiadau o gadw gweddillion 18 o wartheg ar ei dir.
Yn ogystal â'r ddirwy bydd yn rhaid i Thomas dalu costau o £3,000.
Fe blediodd yn euog hefyd i gyhuddiad o rwystro swyddog iechyd yn ei waith.
Clywodd y llys iddo yrru cerbyd o'r safle er mwyn cael gwared â gweddillion anifeiliaid.
Roedd gan Thomas drwydded i gasglu a chael gwared â gweddillion anifeiliaid.
Roedd y drwydded yn caniatáu iddo gasglu anifeiliaid marw ac yna eu trosglwyddo i safle oedd wedi ei drwyddedu i dderbyn gweddillion.