Cipio merch: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Roedd yr ymgais i gipio'r fenyw ifanc nos Fawrth
Mae dyn 45 oed o ardal Bangor wedi cael ei arestio wedi i rywun geisio gorfodi menyw ifanc i mewn i gar yn y ddinas nos Fawrth am 10pm.
Roedd yr ymgais i gipio ar gornel Ffordd Ffriddoedd.
Llwyddodd y fenyw ifanc i ddianc cyn i'r dyn fynd yn ôl i'w gar.
Chafodd y fenyw ddim ei hanafu.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Caernarfon.
Mae llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wedi dweud: "Ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, mae'r brifysgol yn atgoffa myfyrwyr ba mor bwysig yw diogelwch personol.
"Dylai myfyrwyr fod yn ofalus a pheidio â cherdded ar eu pennau eu hunain, yn enwedig yn y nos."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.