Llofruddiaeth: Cyhuddo dau

  • Cyhoeddwyd
Canolfan reoliFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr ymosodiad yn ardal Y Bracla ar Fehefin 16

Mae dau yn Llys Ynadon Pen-y-bont ddydd Iau ar gyhuddiad o lofruddiaeth wedi i ddyn farw yn yr ardal ym mis Awst.

Bu farw Paul Robinson, 41 oed, ar Awst 15 wedi ymosodiad yn ardal Y Bracla ar Fehefin 16.

Ar y pryd cafodd dau eu harestio ar amheuaeth o ymosod ond erbyn hyn fe gawson nhw eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae'r ddau yn 22 a 23 oed.

.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol