Cynllun canol tre gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
AberystwythFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae Siambr Fasnach Aberystwyth yn cefnogi'r cynllun

Mae cynllun gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu rhan o ganol tref Aberystwyth gam yn nes wedi i Gyngor Ceredigion benodi datblygwr ar gyfer y prosiect.

Y gred yw y bydd archfarchnad Tesco, gan gynnwys maes parcio aml-lawr, yn rhan o'r cynllun i adfer ardal Dan Dre.

Ond mae rhai'n poeni am na fydd enwau'r datblygwr a'r adwerthwr yn cael eu cyhoeddi tan Hydref 10.

Mae chwe chynghorydd sir wedi arwyddo cynnig yn galw am fwy o ymchwilio wedi i Gabinet y cyngor gymeradwyo'r datblygwr.

Cefnogi

Ond pleidleisiodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Datblygu Economaidd Twristiaeth ac Ewrop yr awdurdod lleol i gefnogi penderfyniad y cabinet.

Roedd nifer o ddatblygwyr wedi cyflwyno cynigion ar gyfer cynllun Dan Dre fydd yn cynnwys maes parcio gyda lle i 500 o geir.

Dywedodd y cyngor sir: "Mae'r datblygwyr sydd wedi cyflwyno cynigion wedi'u hysbysu am fwriad y cyngor i ddyfarnu'r cytundeb i ddatblygu maes parcio Dan Dre i Gynigydd A.

"Rhaid i'r cyngor oedi am 10 niwrnod ar ôl hysbysu'r datblygwyr eraill cyn dyfarnu'r cytundeb."

'Cyfrinachedd'

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, un o'r chwe chynghorydd heriodd benderfyniad y cabinet, fod trafodaeth gyhoeddus ynghylch y cynllun wedi eu hatal "oherwydd cyfrinachedd masnachol a chyfyngiadau rheoli caffael."

Yn y cyfamser, mae Siambr Fasnach Aberystwyth wedi cefnogi'r cynllun.

Mewn llythyr at y cyngor dywedodd: "Hoffai Siambr Fasnach Aberystwyth ddatgan eu cefnogaeth i'r penderfyniad i benodi cynllun dan arweiniad Tesco yn Dan Dre.

"Mae'r gefnogaeth o dan yr amod y bydd y maes parcio yn Dan Dre ar gael i bobl sy'n defnyddio holl gyfleusterau Aberystwyth ac nid i bobl sy'n defnyddio cyfleusterau datblygiad Dan Dre yn unig."

Y llynedd, dywedodd Tesco fod ganddyn nhw ddiddordeb mewn "gwasanaethu cwsmeriaid" yn Aberystwyth ond byddai hynny'n dibynnu ar ddod o hyd i leoliad a buddsoddiad priodol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol