Adfywio tref Merthyr Tudful: Y cam nesaf

  • Cyhoeddwyd
Argraff arlunydd o neuadd tref Merthyr TudfulFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r rhan nesaf o'r rhaglen yn cynnwys creu sgwâr cyhoeddus a lawnt coleg

Mae arddangosfa sy'n amlinellu cam nesaf cynllun gwerth £26m i ailddatblygu canol tref Merthyr Tudful wedi ei hagor.

Mae swyddogion am i'r cyhoedd gynnig syniadau i wella'r ardal a phenderfynu pa rai o gynigion y cynllun y dylid eu blaenoriaethu.

Mae'r cynllun yn cynnwys gwella'r mynediad i ganol y dref ac adnewyddu mannau cyhoeddus gan ddenu mwy o fusnes.

Roedd y rhan gyntaf o'r cynllun yn cynnwys gwell mynediad i'r dref ar hyd yr afon Taf.

Sgwâr cyhoeddus

Yn ogystal mae gwelliannau wedi eu cyflawni i brif strydoedd y dre ers i'r gwaith adnewyddu ddechrau'r llynedd.

Dywedodd Malcolm Browne, cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Y Dref a Pharc ei fod e "ar ben fy nigon am beth sy'n digwydd i Ferthyr a sut mae'r dref wedi ei thrawsnewid".

Mae'r rhan nesaf o'r rhaglen adfywio gwerth £26m yn cynnwys creu sgwâr cyhoeddus a lawnt y coleg.

Cyngor Sirol Merthyr Tudful a Phartneriaeth Canol y Dref Merthyr Tudful sydd yn gyfrifol am y cynllun.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Jeff Edwards: "Mae'r rhaglen adfywio yn gyfle unigryw i roi Merthyr ar y map gan greu lle anhygoel i weithio, byw a'i hymweld".

Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal bob dydd o 10am tan 6pm yng nghanolfan siopa St Tudful tan Ddydd Sadwrn Hydref 1.

Y disgwyl yw i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2015.