Cerbyd ar gopa'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio am fod cerbyd gyriant pedair olwyn wedi cael ei barcio ger canolfan ymwelwyr ar gopa'r Wyddfa.
Daw hyn lai na mis ers digwyddiad tebyg pan gafodd cerbyd ei weld lathenni o'r copa.
Fe wnaeth staff Rheilffordd Yr Wyddfa gyrraedd canolfan Hafod Eryri fore Iau a sylwi ar gerbyd gyriant pedair olwyn lliw coch tywyll ger yr adeilad.
Dywedodd Alan Kendall, Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Yr Wyddfa, fod hyn yn "rhywbeth hynod o anghyfrifol".
"Ar ôl canfod y cerbyd yn gynharach bore 'ma, rydym wedi sicrhau bod y mecanwaith ar y cledrau yn iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad oes 'na ddifrod wedi ei wneud dros nos.
"Mae'r gwasanaeth trên yn rhedeg fel arfer.
"Rydym yn wynebu penwythnos prysur o'n blaen a fydd y cerbyd ddim yn cael ei symud tan yr wythnos nesaf ar y cynharaf.
"Er mwyn symud y car yn gynt, bydd rhaid atal trenau ac amharu ar gynlluniau ymwelwyr.
"Fyddwn ni ddim yn gwneud hynny."
Mae swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn ymchwilio.
'Anghyfrifol ac annerbyniol'
Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips:
"Mae'r ymddygiad anghyfrifol yma yn gwbl annerbyniol ac rwy'n annog yr heddlu i erlyn y troseddwr a hefyd i gymryd y cerbyd a'i ddinistrio."
Dywedodd yr awdurdod mewn datganiad eu bod yn hynod siomedig gyda "gweithred anghyfrifol sydd unwaith eto wedi achosi perygl diangen a risg i ddefnyddwyr y mynydd, y tirlun a Hafod Eryri ei hun."
Cafwyd hyd i'r un cerbyd 4X4 rhyw 400 llath o gopa'r Wyddfa ar Fedi 3, ac fe gafodd ei gludo i lawr y mynydd ar y tren bach.
Dywedodd un o ohebwyr y BBC a deithiodd i'r copa ddydd Iau fod y cerbyd o'r un math a gyda'r un rhif adnabod a'r car yn y digwyddiad blaenorol.
Doedd dim cadarnhad pwy wnaeth yrru'r car i'r copa y tro hwn.
Fe gafodd dyn ei gyhuddo o yrru'n beryglus yn dilyn y digwyddiad blaenorol, ac fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon ar Hydref 7.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2011
- Cyhoeddwyd8 Medi 2011