Angladd y glöwr Philip Hill

  • Cyhoeddwyd
Philip HillFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Mr Hill yn nhrychineb Pwll Y Gleision

Fe fydd angladd un o'r glowyr fu farw mewn damwain drasig yn gynharach yn y mis yn cael ei chynnal.

Yn Amlosgfa Margam am 2pm mae gwasanaeth angladdol Philip Hill a oedd yn 44 oed.

Bu farw Mr Hill, Charles Breslin, Garry Jenkins a David Powell ym Mhwll Y Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe ar Fedi 15.

Dywedodd ei deulu eu bod yn ddiolchgar iawn i'r timau achub am eu gwaith diflino yn ceisio ei achub o dan y fath amgylchiadau.

Cyfeiriodd teulu Mr Hill at sawl colled dros y blynyddoedd diwetha' a dweud eu bod yn awyddus i gael llonydd i alaru am eu hanwyliaid.

Daeth marwolaeth Mr Hill 10 mis ers iddo golli ei fam, Merle Hill.

Ym mis Mawrth eleni collodd Mr Hill ei fab Simon.

Mae Mr Hill yn gadael dau o blant, Lee a Kyla.

"Fel teulu mae'n bywydau wedi bod yn fwy cyfoethog o fod wedi eu hadnabod," meddai'r deyrnged.

Cannoedd

"Rydym yn ddiolchgar iawn am ymdrechion a chefnogaeth pawb yn ystod yr oriau o aros am newyddion am Philip pan oedd yn gaeth o dan ddaear."

Roedd cannoedd o bobl yn bresennol yn angladd Mr Breslin ddydd Mercher.

Fe fydd angladd Mr Jenkins ddydd Sadwrn a does 'na ddim dyddiad eto wedi ei nodi ar gyfer angladd Mr Powell.

Cafodd cwest i'r pedwar glöwr ei agor gan Grwner Castell-nedd Port Talbot, Philip Rogers, yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, ddydd Mawrth.

Mae'r cwest wedi ei ohirio.

Dywedodd Mr Rogers bod "amgylchiadau trist" wedi arwain at farwolaethau'r pedwar.

Doedd teuluoedd y pedwar glöwr ddim yn bresennol yn y gwrandawiad a barodd am ychydig o funudau.