Cadarnhau achos marwolaeth dyn yng nghanol Pumsaint

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai teiar yn ffrwydro oedd achos marwolaeth dyn mewn gweithdy yn Sir Gaerfyrddin fore Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i weithdy Thomas Rees a'i Fab yng nghanol Pumsaint ger Llanwrda am 9.38am ddydd Mercher.

Roedd y dyn yn gwneud gwaith ar y teiar cyn i'r teiar ffrwydro.

Aed â'r dyn mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty.

Dyw'r heddlu ddim wedi cyhoeddi ei enw eto ond dywedodd cymydog fod ei bartner newydd gael babi.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Fe all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau bod dyn wedi marw ar ôl i deiar diwydiannol ffrwydro o dan bwysau, ac ni chafwyd ffrwydrad nwy fel yr adroddwyd cryn dipyn yn y cyfryngau".

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi lansio ymchwiliad wedi'r ddamwain ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn cyd-weithio â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Fe gafodd teulu'r dyn fu farw a Chrwner Sir Gaerfyrddin eu hysbysu.