Gweithwyr undeb Bectu BBC Cymru ar streic
- Cyhoeddwyd

Mae pedwar aelod staff BBC Cymru yn colli swyddi golygu ym maes ôl-gynhyrchu newyddion
Mae gweithwyr undeb Bectu BBC Cymru yn cynnal streic undydd ddydd Gwener.
Mae'r undeb yn protestio am fod pedwar aelod staff o fewn y BBC yn colli swyddi golygu ym maes ôl-gynhyrchu newyddion.
Yn ôl yr undeb mae'r BBC wedi "gwrthod pob cais i adleoli ein haelodau".
Ond yn ôl llefarydd ar ran y BBC: "O ystyried record dda'r BBC o adleoli cymaint â phosib o staff, rydym yn siomedig fod Bectu wedi dewis gweithredu.
"Hoffem ymddiheuro i'n cynulleidfa am unrhyw anghyfleustra a achosir oherwydd hyn.
"Rydym yn ymroddedig i weithio gyda'r holl unigolion hynny sy'n wynebu diswyddiadau mewn ymdrech i ganfod gwaith arall."
Ym mis Gorffennaf, bu aelodau o undeb yr NUJ yn BBC Cymru yn cymryd rhan mewn streic oherwydd diswyddiadau.
Straeon perthnasol
- 15 Gorffennaf 2011
Hefyd gan y BBC
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol