Cyhoeddi tîm rygbi Cymru i wynebu Fiji
- Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwr rygbi Cymru Warren Gatland wedi enwi tîm cryf i wynebu Fiji yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Sul.
Mae 'na saith newid yn ogystal â dau newid safle o'r tîm wnaeth guro Namibia 81-7 ddydd Llun.
Mae Jamie Roberts yn ôl yn safle'r canolwr ac yn ymuno gyda fo y mae Scott Williams o'r Scarlets ar ôl croesi am dri chais yn y gêm ddiwetha'.
Dyw Shane Williams ddim wedi ei gynnwys oherwydd anaf a'r newyddion o'r garfan yw ei fod o'n gwella fel y mae Dan Lydiate (ffêr) a James Hook (ysgwydd) o'u hanafiadau.
Bydd George North, Rhys Priestland a Mike Phillips yn cychwyn y gêm.
Wrth i North gychwyn fe fydd Leigh Halfpenny yn newid asgell.
Ymysg y blaenwyr mae Gethin Jenkins ac Adam Jones yn dechrau yn y rheng flaen.
Ar y fainc y mae Stephen Jones a Jonathan Davies.
'Ennill yn gyfforddus'
Does 'na ddim lle i Travis Knoyle ac Aled Berw yn y 22.
"Mae'n bosib y byddai Shane ar gael i ni ond fe fyddai'n rhaid i ni ei wthio, er mai prin iawn mae o wedi bod yn rhan o'r ymarferion yn ystod yr wythnos," meddai Gatland.
"Rydym yn hynod o hapus gyda'r tri yn y cefn.
"Gan fod Alun Wyn Jones a Jonathan Davies wedi dechrau'r tair gêm hyd yma, rydym wedi gwneud dipyn o newid i'r ail reng ond maen nhw ar y fainc rhag ofn y byddwn eu hangen.
"Rydym yn canolbwyntio ar wynebu Fiji, ac os allwn ni ennill ac ennill yn gyfforddus, mae modd i ni gyrraedd y chwarteri," ychwanegodd.
Dydd Gwener fe lwyddodd De Affrica i guro Samoa 13-5.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru i bwrpas drwodd i'r wyth olaf.
Byddai'n rhaid iddyn nhw golli o sgôr anferthol i Fiji er mwyn i hynny beidio â digwydd.
Fe fydd gêm olaf Cymru yn grŵp D yn Stadiwm Waikato yn Hamilton ddydd Sul am 6pm (amser lleol) 6am (amser Cymru).
CYMRU: Lee Byrne; George North; Scott Williams; Jamie Roberts; Leigh Halfpenney; Rhys Priestland; Mike Phillips; Gethin Jenkins; Huw Bennet; Adam Jones; Bradley Davies; Luke Charteris; Ryan Jones; Sam Warburton; Toby Faletau.
EILYDDION: Lloyd Burns; Paul James; Alun Wyn Jones; Andy Powell; Lloyd Williams; Stephen Jones; Jonathan Davies.
Straeon perthnasol
- 26 Medi 2011
- 18 Medi 2011
- 11 Medi 2011
- 24 Medi 2011
- 19 Medi 2011
- 9 Medi 2011
- 8 Medi 2011
- 6 Medi 2011
- 2 Medi 2011
- 25 Awst 2011
- 22 Awst 2011