Apêl i gael larwm tân sy'n gweithio wedi cwest
- Cyhoeddwyd

Mae uwch swyddogion y gwasanaeth tân yn apelio ar y cyhoedd i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd cael larymau mwg sy'n gweithio.
Daw'r apêl wedi cwest i farwolaeth dynes 30 oed a fu farw mewn tân yn ei chartref ger Yr Wyddgrug yn gynharach eleni.
Roedd Kirsty Weaver yn y tŷ yn Fraser Drive, Bwcle, yn oriau mân bore Sadwrn 19 2011.
Clywodd y cwest i'w marwolaeth ddydd Iau nad oedd y larwm mwg yn gweithio.
Roedd cymydog wedi cysylltu gyda'r gwasanaethau brys am 2.50am.
Cafodd criwiau o Fwcle a'r Wyddgrug eu galw i'r digwyddiad cyn canfod corff y ddynes.
Derbyniodd bachgen dyflwydd oed, a gafodd ei achub o'r tân, driniaeth am effeithiau anadlu mwg.
'Mudlosgi'
"Hoffwn gydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Kirsty Weaver," meddai Mike O'Meara o Wasanaeth Tân Gogledd Cymru.
"Anghysondeb trydanol o fewn y teledu oedd tarddiad y tân ac mae'n debyg ei fod wedi bod yn mudlosgi am beth amser.
"Rydym yn cynghori pobl i sicrhau eu bod yn cael prawf cyson ar eu cyfarpar trydanol, yn enwedig os ydyn nhw'n cael eu difrodi mewn unrhyw ffordd.
"Mae'r digwyddiad yn tanlinellu pwysigrwydd cael larwm mwg sy'n gweithio.
"Mae pobl yn peryglu eu bywydau."
Dywedodd mewn sefyllfa o'r fath, fe fyddai'r larwm mwg yn deffro rhywun cyn dim dim byd arall.
"Mae wedi ei gynllunio ar gyfer rhoi rhybudd buan i alluogi rhywun i ddianc yn ddiogel," ychwanegodd Mr O'Meara.
"Gall olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marwolaeth."
Mae'r gwasanaeth yn cynnig archwiliad cartref am ddim a gosod larymau a gellir archebu archwiliad drwy ffonio llinell ffôn 24 awr am ddim ar 0800 169 1234, neu drwy e-bost cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ymweld â www.nwales-fireservice.org.uk
Straeon perthnasol
- 21 Mawrth 2011