Plaid Cymru yn sicrhau mwyafrif

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi sicrhau rheolaeth o Gyngor Gwynedd ar ôl ennill dau isetholiad.

Llywodd Gareth Thomas i ennill sedd Penrhyndeudraeth, gan sicrhau fod Plaid Cymru yn dal eu gafael ar y sedd.

Yn ward Diffwys a Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, roedd yna fuddugoliaeth i Mandy Williams-Davies, gan gipio'r sedd oddi ar Llais Gwynedd.

Mae'r canlyniadau yn golygu fod gan Blaid Cymru fwyafrif llwyr ar Gyngor Gwynedd.