Cynghrair is i'r Crusaders efo enw newydd?
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr tîm rygbi'r gynghrair Y Crusaders wedi cefnogi'n unfrydol cynlluniau i fod yn rhan o Adran Gyntaf Cynghrair y Cooperative y flwyddyn nesaf.
Mae Clwb Cefnogwyr y Crusaders a Save the Cru, yn creu clwb newydd ar gyfer tymor 2012.
Maen nhw'n galw ar y cefnogwyr i bleidleisio ar-lein am enw newydd i'r tîm fydd yn chwarae yn Wrecsam.
Y tri dewis yw Crusaders Glyndŵr, Crusaders Cambrian neu Crusaders Gogledd Cymru.
Daeth y penderfyniad i barhau i chwarae mewn cyfarfod agored o tua 120 o gefnogwyr nos Iau.
Mae'r cefnogwyr yn awyddus i gadw'r Crusaders fel rhan o'r enw.
Bydd rhaid pleidleisio cyn 11am ddydd Gwener Hydref 7.
Buddsoddiad
Y cyfarfod nos Iau oedd y cyntaf ac fe drafodwyd lleoliad chware, chwaraewyr a chyllid.
Y tebygrwydd yw y bydd y clwb yn parhau i chwarae ar y Cae Ras gan eu bod yn hyderus bod y cytundeb gyda Phrifysgol Glyndŵr - perchnogion y cae - yn addas ac yn ddilys.
"Mae 'na sawl cam i'w wyneb ond rydym yn ffyddiog y bydd y clwb yn cychwyn gyda'r un math o gefnogaeth â Rochdale a Hunslet sydd wedi gwneud yn dda heb yr un perchennog unigol," meddai
"Rydym yn chwilio am fuddsoddiad ac fe fydd 'na gyfle i gefnogwyr gyfrannu tuag ar "gyfranddaliadau".
Fe fydd y corff sy'n rheoli Rygbi'r Gynghrair yn ystyried cais newydd y clwb i chwarae ar lefel is nag yr oedden nhw eleni yn y Superleague.
Byddai hynny yn gweld y tîm yn wynebu Scorpions De Cymru.
Hwn fyddai'r tro cyntaf mew 102 o flynyddoedd i ddau dîm proffesiynol o Gymru wynebu ei gilydd.
Straeon perthnasol
- 26 Gorffennaf 2011
- 3 Awst 2011